Rhodd Eryri – Snowdonia Giving
 

newid mân...mynyddoedd o wahaniaeth!

Snowdonia gives a lot to us... we need to give a little back. Snowdonia giving is a way of us all easily donating a small amount of money to help save Snowdonia.

Here's a couple of short films we have made to tell you all about Snowdonia Giving....

Mae Eryri Angen Chi

Mae Eryri o dan fygythiad oherwydd ei phoblogrwydd ei hun - y nifer cynyddol o bobl sy’n mwynhau'r Parc ... dros 6 miliwn o bobl bob blwyddyn!

Ar hyn o bryd, mae tua 475,000 o gerddwyr y flwyddyn ar yr Wyddfa ei hun, gyda chyfanswm nifer yr ymwelwyr a groesewir i'r mynydd yn cyrraedd 600,000 ... bron i ddwywaith poblogaeth Gwlad yr Iâ yn mynd i fyny un mynydd! Mae hyn wedi mwy na dyblu ers 2007 ac mae’r cyfanswm yn fwy na’r nifer o ymwelwyr â Ben Nevis, Scafell Pike, Mont Blanc a Everest gyda’i gilydd! Ar hyn o bryd, mae’r niferoedd yn cynyddu o tua 10% ar gyfartaledd bob blwyddyn ... dyna 50-60,000 o bobl ychwanegol bob blwyddyn ... sy’n cyfateb i boblogaeth o faint Kidderminster, Macclesfield, Wrecsam neu Royal Tunbridge Wells yn penderfynu mwynhau'r golygfeydd ... gymaint â hynny yn ychwanegol, bob blwyddyn!!

Mae'r bygythiadau i'r agweddau unigryw, ac felly gwerth Eryri, yn sylweddol, yn benodol ac yn niferus, ond ni ellir dychmygu’r lle gyda'i amgylchedd, bywyd gwyllt a’i gymuned wedi eu diraddio na’u ddinistrio mewn unrhyw ffordd.

Mae'n bwysig deall nad yw'r effeithiau negyddol sy'n deillio o'r cynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr yn cael eu cynnwys yng nghyllid y Llywodraeth na threthi, ac felly mae hyn yn golygu bod bygythiadau go iawn yn bodoli yn y tymor byr a'r tymor hir.

Rydych wedi helpu i nodi 3 prosiect allweddol i’w cefnogi yn Eryri er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl. Mae'r prosiectau hyn yn mynd i helpu gwarchod Eryri, yr ydym i gyd yn ei charu.

Canfyddwch pam fod angen i adeiladwyr llwybr yr Wyddfa ddefnyddio hofrenyddion!

Priosectau Rhodd Eryri

Eich Blaenoriaethau:

Drwy arolygon ymwelwyr ac ymgynghori â thrigolion, busnesau lleol, ac wedi gweithio gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cymdeithas yr Wyddfa a grwpiau arbenigol eraill, rydym wedi penderfynu pa brosiectau presennol y mae pobl yn eu dynodi fel blaenoriaethau. Mae yna gonsensws ei fod yn gwneud synnwyr cyfuno adnoddau a chanolbwyntio ymdrechion i sicrhau cyflenwi canlyniadau ac effeithiau sylweddol er mwyn helpu i warchod Eryri rhag y bygythiadau hyn.

O’r herwydd, nodwyd 3 o brosiectau blaenoriaeth i Rhodd Eryri eu cynorthwyo, fel a ganlyn:

  • Mynyddoedd Llwybrau Mynydd yr Wyddfa

    Mwy...
  • Iseldir a’r Cymoedd Taith Gylchol yr Wyddfa

    Mwy...
  • Pobl Pobl Ifanc a Sgiliau Traddodiadol

    Mwy...


Busnesau Sy’n Ein Cefnogi

Mae pob un o'r busnesau lleol hyn yn helpu mewn gwahanol ffyrdd i gasglu ar ran Rhodd Eryri...

Neu dysgu sut y gall eich busnes gymryd rhan.

Gallwch Gyfrannu Yma!

Mae cyfrannu swm bach o arian yn hawdd iawn, ac mae'n deimlad gwych gwybod eich bod yn helpu i achub ac amddiffyn lle mor bwysig.


(English) Snowdonia Giving – Rhodd Eryri

£
Personal Info

Donation Total: £10

Pwy Sy'n Cymryd Rhan

Gweinyddir Rhodd Eryri gan Fenter Môn ar ran Partneriaeth Eryri a busnesau sy'n cymryd rhan. Mae Menter Môn yn fenter gymdeithasol sy'n gweithredu ar sail dielw ar draws Gogledd Cymru i. Nid yw'n codi tâl am weinyddu, ac mae 100% o'r holl arian a godir yn mynd tuag at y prosiect. I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau eraill a gyflenwir gan Menter Môn, ewch i www.mentermon.com.

Mae Partneriaeth yr Wyddfa yn grŵp a sefydlwyd i greu ac yna gweithredu cynllun rheoli newydd ar gyfer yr Wyddfa. Mae'r grŵp yn cynnwys unigolion sy'n cynrychioli'r sefydliadau a'r tirfeddianwyr sy'n gyfrifol am reolaeth ymarferol o’r mynydd - yn amrywio o waith cadwraeth a rheoli llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd. Mae'r aelodaeth yn cynnwys y canlynol: