Mae Eryri yn Drysor Cenedlaethol a Rhyngwladol!
Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri yn 1951 a dyma’r mwyaf o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru, yn cwmpasu arwynebedd tir o 2176 km2 / 840 milltir sgwâr o dirwedd fynyddig a 60km / 37 milltir o arfordir hardd ac amrywiol. Ar hyn o bryd mae’n denu dros 6 MILIWN o ymwelwyr bob blwyddyn; mae’r ardal yn gartref i’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, (Yr Wyddfa ar 1085m / 3560 tr.), ac mae’n fyd enwog am ei bywyd gwyllt, daeareg, cymoedd a rhaeadrau creigiog syfrdanol.
Mae miloedd o flynyddoedd o fywyd dynol yn amlwg yn y siambrau claddu o Oes y Cerrig, olion Rhufeinig, cestyll Cymreig a Normanaidd canoloesol mawreddog a gweithfeydd diwydiannol trawiadol. Mae gan y Parc boblogaeth o tua 25,000, gyda mwy na hanner ohonynt yn siarad Cymraeg, sef un o’r ieithoedd a diwylliannau byw a ffyniannus hynaf yn Ewrop. Mae Eryri yn cynrychioli calon a lloches naturiol i’r dirwedd Gymreig, hanes, diwylliant a’r iaith Gymraeg unigryw.
Eryri – Yn Rhoi Cymaint i Ni
Pam fod Eryri mor boblogaidd? Mae pobl o bob cefndir ac oedran o bob cwr o’r byd yn ymweld ag Eryri i fwynhau’r ardal ddramatig a hardd hon. Mae’r Parc yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i’r holl unigolion a theuluoedd sy’n ymweld â hi; mae gan lawer o bobl atgofion melys am ymweliadau â’r ardal o’u plentyndod, sydd wedyn yn cael eu hail-fyw a’u hailadrodd gyda’r genhedlaeth nesaf o blant … a wyrion a wyresau … mae pawb sy’n hoffi ‘dianc yn ôl i natur ac ailgysylltu’ yn caru’r ardal hon.
Mae Eryri yn lle gwych i ddod i gerdded ac mae rhwydweithiau o lwybrau ar gyfer pobl o bob gallu. P’un a ydych eisiau’r her o fynd i fyny’r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, neu fod well gennych fynd am dro hamddenol ar hyd yr arfordir, rydych yn sicr o weld golygfeydd syfrdanol a thirweddau amrywiol.
Mae’r tir yn amrywio yn Eryri o gopaon mynyddoedd garw i draethau tywodlyd hir, i lynnoedd ac afonydd clir fel grisial. Mae’r Parc Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau troed a anelir at gerddwyr o bob gallu.
Daeth Eryri hefyd yn gynyddol yn un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn y DU.
Mae Eryri yn enwog am ei gweithgareddau cerdded, dringo a beicio, ac yma mae rhai o’r digwyddiadau cyfranogwyr torfol gorau a chyfleusterau beicio mynydd yn y Byd! Mae chwaraeon dŵr a physgota yn hynod o boblogaidd gyda digon o lynnoedd, afonydd ac arfordir i’w mwynhau. Mae rhwydweithiau llwybr ceffylau helaeth o fewn y Parc Cenedlaethol i fynd am dro ar gefn ceffyl, ac mae yna hefyd gyrsiau golff o safon byd … i enwi dim ond rhai o’r nifer o weithgareddau posibl.
Eryri – Rhaid i Ni Roi Rhywbeth Yn ôl
Mae pobl sy’n caru’r ardal, gan gynnwys ymwelwyr, trigolion, busnesau a gwyddonwyr wedi sylweddoli ers peth amser fod angen iddynt wneud rhywbeth i sicrhau bod Eryri yn cadw ei harddwch, amrywiaeth naturiol ac apêl unigryw.
Hwn oedd y trydydd Parc Cenedlaethol i gael ei ddynodi ym Mhrydain, a’r cyntaf yng Nghymru. Heddiw, mae Eryri yn un o 15 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn awdurdod annibynnol, a’i brif bwrpasau yw:
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
- Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parc.
- Dyletswydd i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol y Parc.
Fodd bynnag, mae poblogrwydd cynyddol yr ardal … (mwy na dwbl y nifer y bobl ar yr Wyddfa ers 2007!) a’r pwysau anochel sy’n dod yn sgil cynnydd yn nifer y bobl, yn golygu bod yr ardal fwy nag erioed mewn perygl o ‘ddioddef oherwydd ei llwyddiant ei hun’.
Mae’n bwysig deall nad yw’r effeithiau negyddol sy’n deillio o’r cynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr yn cael eu cynnwys yng nghyllid y Llywodraeth na threthi, ac felly mae hyn yn golygu bod bygythiadau go iawn yn bodoli yn y tymor byr a’r tymor hir.
Mae’r bygythiadau i’r agweddau unigryw, ac felly gwerth Eryri, yn sylweddol, yn benodol ac yn niferus, ond ni ellir dychmygu’r lle gyda’i amgylchedd, bywyd gwyllt a’i gymuned wedi eu diraddio na’u ddinistrio mewn unrhyw ffordd.